CYNGOR CYMUNED LLANENGAN

 

Clerc – Einir Wyn – Clerk

Fferm Cae Du, Aber-soch, PWLLHELI, Gwynedd.  LL53 7HT

Ffôn:  (01758) 712434 – tŷ/712707 – peiriant ateb

E-bost:  caedu@dialstart.net

 

 

 

Mai 20fed, 2014

 

 

Clerc,

Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoleb a Llywodraeth Leol,

Llywodraeth Cynulliad Cymru,

BAE CAERDYDD.

CF99 1NA

 

 

Annwyl Syr/Fadam,

 

Ymgynghoriad ar y Bil Safloedd Carafannau Gwyliau (Cymru)

 

Ysgrifennaf ar ran y Cyngor uchod i fynegi’r sylwadau a ganlyn:

 

gwrthwyneba gais gan unrhyw faes carafannau sefydlog yn y Gymuned hon i ddiwygio Amod yn ei Ganiatâd Cynllunio er mwyn ei ddefnyddio ar gyfer gwyliau trwy’r flwyddyn oherwydd y buasai’n cychwyn cynsail i safleoedd eraill (cyfanswm o tua dwy fil o garafannau yn y gymuned hon).  Mynegir pryder yr agora hyn ddrws i ddefnyddio’r carafannau yn gartrefi parhaol ac am yr effaith ar yr iaith Gymraeg a chymdeithas gynhenid Gymraeg/Gymreig, ynghyd â bod yn bwysau ychwanegol ar wasanaethau, yn arbennig iechyd a gofal pan wynebant doriadau ariannol.  Yn ogystal, nid oes gan Awdurdodau Lleol fodd o’u monitro.

 

Mae’r Cyngor o blaid rhoi terfyn ar yr arfer o ddefnyddio carafannau gwyliau fel cartrefi preswyl parhaol drwy ei gwneud yn ofynnol i’w perchnogion a meddianwyr hirdymor ddangos bod eu prif breswylfa mewn man arall a rhoi pwerau i awdurdodau lleol ddelio â meddianwyr carafannau sy’n methu’r prawf hwn.

 

Hyderir yr ystyriwch y sylwadau uchod.

 

Yn gywir,

 

Einir Wyn

 

 

EINIR WYN

Clerc